Croeso Mawr i Brydain
Croeso Mawr i Brydain
Mae Croeso Mawr i Brydain yn dangos sut mae cymunedau ledled y DU yn croesawu pobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi. Drwy goginio yng Nghaerdydd, canu yn Greenwich, bowldro yn Lerpwl, ac mewn llawer o ffyrdd cyffredin ac anghyffredin eraill, mae Croeso Mawr i Brydain yn dangos sut y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches ffynnu yn eu cymunedau newydd. Mae hefyd yn datgelu sut mae cymunedau yng Nghymru ac ym Mhrydain yn elwa o dalentau a safbwyntiau newydd wrth groesawu eu newydd-ddyfodiaid.
Mae storïau Croeso Mawr i Brydain yn cael eu hadrodd gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, ac mae’r lluniau wedi’u tynnu gan Andrew Testa.
Sganiwch yma i ddarllen y storïau yn llawn a gweld rhagor o luniau ar wefan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid.
Text and media 2
‘Mae Manceinion mor groesawus. Mae’r cymunedau yma yn eich croesawu heb feddwl o ble rydych yn dod.’
Mahboobeh
Artist, Cynhyrchydd a chyn Gynhyrchydd Creadigol yn CAN
Mae Gŵyl Horizons, sy’n cael ei chynhyrchu gan Community Arts Northwest (CAN), ac sydd wedi’i lleoli yn HOME ym Manceinion, yn arddangos amrywiaeth y ddinas drwy wahodd pobl i gysylltu, dysgu, sefyll gyda’i gilydd a rhannu traddodiadau a thalentau pobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi ac sydd bellach yn gwneud eu cartref ym Manceinion. Yn yr ŵyl fe wnaeth Mahboobeh, ffoadur o Iran, a arferai fod yn Gynhyrchydd Creadigol yn CAN, berfformio cerdd i Fanceinion, sy’n dathlu’r ddinas sydd wedi’i chofleidio fel un o’i phobl ei hun. Menyw ifanc yn ceisio lloches oedd Mahboobeh, ac fe wnaeth menywod CAN ei chroesawu â breichiau agored, ei chefnogi a dod yn fodelau rôl iddi.
Text and media 3
‘Mae cerdded yn cyflymu cysylltiad rhwng pobl. Rydyn ni i gyd yn tuchan a thagu allan yna, gyda’n gilydd.’
Emma
Un o gerddwyr Refugee Tales
Mae Refugee Tales yn brosiect gan Grŵp Lles Canolfan Gadw Gatwick sy’n trefnu teithiau cerdded i gefnogi pobl mewn canolfannau cadw mewnfudwyr yn y DU, llawer ohonynt yn geiswyr lloches a ffoaduriaid. Ar ôl pum niwrnod o gerdded yn yr haf cynhelir sesiwn adrodd storïau gyhoeddus wedi’i hysbrydoli gan Canterbury Tales, Chaucer, lle mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn rhannu eu teithiau, gan gynnwys profiadau o gael eu cadw’n gaeth. Bydd cerddoriaeth a dawnsio yno hefyd.
Text and media 4
‘Mae Oasis yn ail deulu i mi ac yn lle diogel i mi. Mae’n lle i mi.’
Alis
Rheolwr Arlwyo yn Oasis Caerdydd
Mae Alis yn dod o Honduras a daeth i’r DU yn 2019 i geisio lloches gyda’i deulu. Dechreuodd wirfoddoli yng nghegin Canolfan Oasis yn fuan ar ôl cyrraedd Caerdydd, ac yn nes ymlaen cafodd ei gyflogi gan y Ganolfan i redeg tryc bwyd Global Eats, sydd bellach yn dod â dulliau coginio Lladinaidd i gymuned Sblot dair gwaith yr wythnos ac sydd wedi bod yn ymwelydd cyson â gŵyl gerddorol Y Dyn Gwyrdd.
Text and media 5
‘Ro’n i wedi rhyfeddu pa mor wych yw’r lle yma, do’n i erioed wedi bod yn rhywle tebyg iddo o’r blaen.’
Matt
Uwch Reolwr Arlwyo a Lletygarwch yn Oasis Caerdydd
Mae Canolfan Oasis yng Nghaerdydd yn rhoi croeso Cymreig cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gynnig te, coffi, a chinio am ddim bob diwrnod mewn awyrgylch hamddenol, yn ogystal â chymorth iechyd meddwl a dosbarthiadau Cymraeg a Saesneg. Mae bwyd yn ganolog i Ganolfan Oasis, ac mae’n helpu pobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi i gymathu a dod â diwylliannau a thraddodiadau newydd i’r gymuned leol.
Text and media 6
‘Canu, bod mewn hwyliau da, bod yn hapus – mae fy nghalon ar agor, mae’n beth da i agor ein calonnau.’
Anja
Aelod o Gôr Dinasyddion y Byd a Rheolwr Prosiect
Mae Côr Dinasyddion y Byd yn disgrifio ei hun fel teulu cerddorol sy’n dathlu celfyddyd, treftadaeth a charedigrwydd pobl sy’n ceisio noddfa a’u cefnogwyr. Sefydlwyd y côr gan Becky Dell a Tess Berry-Hart, ac mae’n gyfuniad unigryw o bobl na fyddent wedi dod at ei gilydd fel arall o bosibl. Maen nhw’n cyfarfod unwaith yr wythnos i ganu a rhannu eu profiadau. Mae Anja o Wcráin ac Aref o Afghanistan yn ffoaduriaid sydd wedi darganfod cymuned, cyfeillgarwch a chysur drwy ganu yn y côr. Mae Côr Dinasyddion y Byd wedi perfformio yng Ngŵyl Glastonbury ac wedi cael eu sioe eu hunain yn y Barbican.
Text and media 7
‘Canu yn Glastonbury? Roedd yn anhygoel, gwych, dw i ddim yn gwybod y gair... epig!’’
Aref
Aelod o Gôr Dinasyddion y Byd a Chynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol
Ddwy flynedd ar ôl ymuno â Chôr Dinasyddion y Byd yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig yn 2020, roedd Aref o Afghanistan yn canu ar lwyfan eiconig y Pyramid yn Glastonbury. Ymunodd â’r côr pan oedd yn chwilio am gymuned ar ôl dod i’r DU ar ei ben ei hun. Er bod yr ymarferion cyntaf wedi’u cynnal ar Zoom, mae wedi darganfod cyfeillgarwch, teimlad o berthyn a chefnogaeth drwy gymuned y côr. Erbyn hyn mae’n cael ei gyflogi gan y côr ac mae’n astudio’r cyfryngau digidol yn y brifysgol. Mae’n gweithio ar y cyd â Meg, sy’n gwerthfawrogi ei dalent greadigol ac yn dweud ei bod wedi bod yn fraint bod yn rhan o’i ddatblygiad proffesiynol.
Text and media 8
‘Rydw i wrth fy modd yn dringo, mae’n fy ngwneud i’n hapus.’
Amir
Aelod o Refugees Rock
Mae Amir, o Iran, ac Olivia o Nottingham yn dringo gyda’i gilydd yn rheolaidd yn The Climbing Hangar yn Lerpwl. Daethant yn ‘fydis bowldro’ sy’n cefnogi ei gilydd pan maen nhw ar y wal a phan maen nhw â’u traed ar y ddaear drwy Refugees Rock, sesiynau di-dâl misol The Hangar sy’n paru ceiswyr lloches a ffoaduriaid ag aelodau Hangar. Mae’r sesiynau’n cael eu cydlynu gan ddringwyr brwd o nifer o sefydliadau sy’n gweithio gyda cheiswyr lloches, ac mae pobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi yn cael eu croesawu i gymuned sy’n ymfalchïo ei bod yn hybu cynhwysiant, ymddiriedaeth ac ymdeimlad o berthyn, ynghyd â hybu iechyd corfforol a meddyliol.
Text and media 9
‘Pan fyddwch chi’n dringo “problem”, rydych chi’n anghofio am eich problemau eich hun. Dyma beth yw ymwybyddiaeth ofalgar ar waith.’
Helene
Cydlynydd Prosiect, Y Groes Goch Brydeinig
Daeth tîm brwdfrydig o ddringwyr sy’n deall sut mae’r gamp yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol at ei gilydd i sefydlu Refugees Rock. Trefnir sesiynau misol gan Action Asylum a’r Groes Goch Brydeinig, â chefnogaeth The Climbing Hangar, sy’n cynnig aelodaeth am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid ar ôl eu trydydd sesiwn. Mae Refugees Rock yn helpu pobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro ac erledigaeth i ddod o hyd i gefnogaeth, dod yn rhan o gymuned Lerpwl a chymryd rhan mewn camp na fyddent yn gallu cymryd rhan ynddi fel arall o bosibl.
Text and media 10
‘Yn fyr, rydw i wedi darganfod teulu.’
Syed
Actor, Hwylusydd ac Ymddiriedolwr yn Phosphorus Theatre
Mae Syed, o Afghanistan, yn rhannu ei dalent fel actor gyda Phosphorus Theatre ac yn sôn am y profiad o ffoi o’i gartref a theithio i’r DU ar ei ben ei hun yn 14 oed. Ddeng mlynedd ar ôl ymuno â chymuned celfyddydau perfformio Phosphorous, mae bellach yn helpu aelodau newydd fel Ismael i fynd ar y llwyfan ac ymgartrefu yn y DU. Mae Syed yn paratoi i ddechrau gyrfa newydd fel peiriannydd ac mae Ismael ac yntau’n dweud eu bod wedi darganfod cefnogaeth ar y llwyfan ac oddi arno yn Phosphorus Theatre.
Text and media 11
‘Maen nhw’n ymwybodol eu bod nhw’n fodelau rôl. Yr hyder sy’n trawsnewid pob agwedd arall ar eu bywydau.’
Dawn
Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Phosphorus Theatre
Sefydlwyd Phosphorus Theatre yn 2015 er mwyn cynnig cyfle i bobl sydd wedi cael eu dadleoli drwy rym ddatblygu eu hyder a’u sgiliau actio yn rhan o gwmni theatr proffesiynol. Drwy adrodd storïau hunangofiannol gall cast All the Beds I have Slept In rannu gyda chynulleidfaoedd y profiadau o deithio ar eu pen eu hunain ar ôl cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi, sy’n ddirdynnol gan amlaf ond hefyd yn cynnwys ambell weithred garedig sydd wedi aros gyda nhw. Mae Phosphorous Theatre yn gweithio er mwyn helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc ar y llwyfan ac oddi arno drwy weithdai, rhaglenni ieuenctid a pherfformiadau i ymhelaethu ar storïau ffoaduriaid a chefnogi newid.
Text and media 12
‘Rwy’n hoffi popeth am yr ysgol yma. Mae hwyliau da iawn arna i pan fydda i’n mynd i’r ysgol.’
Denys
Disgybl o Wcráin yn Ysgol Iau Avenue
Mae Denys, ffoadur o Wcráin, yn setlo’n dda yn Ysgol Iau Avenue â chymorth Saeedah, sy’n gymhorthydd dosbarth yno. Roedd Saeedah yn arfer bod yn bennaeth ysgol yn Iran, ond roedd hi’n methu â chael gwaith fel athrawes yn y DU. Rhoddodd Ysgol Iau Avenue, sy’n rhan o’r rhwydwaith Ysgolion Noddfa yn Norfolk, gyfle iddi gael profiad er mwyn ailddechrau ei gyrfa. Mae profiad Saeedah o ddadleoli yn helpu myfyrwyr fel Denys i ddarganfod cefnogaeth a theimlad o berthyn, ac yn ei helpu i ddatblygu mewn hyder a chael y budd mwyaf o’i addysg mewn cartref newydd.
Text and media 13
‘Mae bod yn Ysgol Noddfa yn golygu eich bod yn gwneud eich gorau i geisio bod yn lle diogel, croesawus a chynhwysol i bawb.’
Jake
Arweinydd y rhaglen Ysgolion Noddfa yn Norfolk
Mae sylfaenwyr Diwrnod o Groeso Norfolk, Jeanette a Jake, yn eistedd yn llyfrgell Ysgol Iau Avenue gyda Denys, disgybl sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar o Wcráin, a Saeedah, cymhorthydd dosbarth sy’n ffoadur o Iran, ac sydd bellach wedi ymgartrefu yn y DU. Dan arweiniad Jake, chwaraeodd Ysgol Iau Avenue ran allweddol yn y broses o lansio rhwydwaith cenedlaethol o dros 400 o ‘Ysgolion Noddfa’ cynradd, uwchradd, meithrin a chweched dosbarth sydd wedi ymrwymo i greu diwylliant croesawus a chynhwysol i ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio lloches.
Text and media 14
‘Rwy’n gallu dod i’r ward yma a siarad gyda phawb a gweithio gyda phawb. Rwy’n gallu gofyn am gymorth unrhyw bryd.’
Kismat
Nyrs Plant yn Ysbyty Brenhinol Bradford
Mae teulu Kismat yn Rohingya o Myanmar ond cafodd hi ei geni yng ngwersyll ffoaduriaid Nayapara yn Bangladesh ar ôl i’w theulu gael eu gorfodi i ffoi o’u cartref. Cafodd ei hadsefydlu yn Bradford gyda’i theulu yn 2009, lle dysgodd Saesneg yn fuan iawn a dod yn aelod gweithgar o’i chymuned leol. Oherwydd ei hawydd i helpu teuluoedd a gofalu am blant, fel y cafodd ei theulu hi ei helpu, dechreuodd Kismat ymddiddori mewn astudio Nyrsio Plant. Erbyn hyn mae wedi dechrau gweithio fel Nyrs Staff yn Ysbyty Brenhinol Bradford.
Text and media 15
‘Pe bawn i’n dal i fyw yn Bangladesh, byddai fy mywyd yn hollol wahanol. Gan fy mod i yma, rydw i wedi cael addysg, ac rwy’n cael pob cefnogaeth i fod yr hyn rydw i eisiau bod.’
Kismat
Nyrs Plant yn Ysbyty Brenhinol Bradford
Yn dilyn lleoliad a phrofiad gwaith fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd yn Ward y Plant yn Ysbyty Brenhinol Bradford, roedd Kismat yn awyddus iawn i ddychwelyd i gymuned yr ysbyty, amgylchedd grymusol wedi’i greu gan ei chyd-nyrsys ar Ward y Plant. Mae Kismat yn dweud bod anogaeth barhaus ei rhieni a’u hymroddiad i sicrhau ei bod yn cael addysg wedi bod yn ddylanwadol iawn yn ei bywyd.
Text and media 16
‘Dywedodd Wafa wrthyn ni, “Mae angen i chi ymarfer eich Saesneg. Rwy’n gwybod am fan lle gallwch chi gynnig helpu yn rôl gwirfoddolwyr.”’
Hanan
Gwirfoddolwraig mewn siop elusen
Mae Wafa, sy’n wreiddiol o Qamishli, Syria, bellach yn byw gyda’i dau fab yn nhref fechan Rothesay ar Ynys Bute yn yr Alban, lle cawsant eu hadsefydlu yn 2021. Mae Cyngor Argyll a Bute, y Cyngor y mae tref Rothesay wedi’i lleoli ynddo, wedi bod yn adsefydlu teuluoedd o Syria a theuluoedd ffoaduriaid eraill er 2015, gan gynnwys ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd yn fwy diweddar fel Hanan a Sumaia o Darfur yn Sudan. Mae Wafa wedi bod yn helpu Hanan, Sumaia ac eraill drwy, er enghraifft, eu cyflwyno i siop elusen Oxfam lle mae hi’n gwirfoddoli.
Text and media 17
‘Rydw i wedi bod yn ddieithryn mewn llawer o leoedd. Mae’n dda pan fyddwch chi’n cyfarfod pobl sy’n dangos i chi i ba gyfeiriad i fynd.’
David
Athro wedi ymddeol sy’n gwirfoddoli fel tiwtor Saesneg
Mae’r gymuned glos yn Rothesay wedi croesawu Wafa a’i theulu â breichiau agored. Erbyn hyn mae Wafa yn gwirfoddoli mewn siopau elusen lleol ac yn helpu ffoaduriaid eraill sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar i setlo yn eu bywydau newydd yn yr Alban. Rhan bwysig o gymathu yn ei chymuned newydd oedd dysgu Saesneg, ac mae Wafa yn ymarfer siarad Saesneg yn rheolaidd dros goffi yn ei hoff gaffi, y Bonnie Bling.
Text and media 18
‘Mae gweithio gydag Abdullah yn golygu bod gyda rhywun sy’n deall beth rydw i wedi bod drwyddo.’ Abdisa
Rheolwr Stondin Marchnad ym Mharc Victoria
Hanner ffordd drwy ei swydd chwe mis fel Rheolwr Marchnad ar gyfer stondin Breadwinners ym Mharc Victoria, dechreuodd Abdullah hyfforddi Abdisa i gymryd y rôl drosodd. Yn ogystal â chael profiad gwaith gwerthfawr, sydd wedi helpu Abdullah i gael gwaith mewn becws lleol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i bobl weithio gyda phobl ifanc eraill sydd wedi profi dadleoli dan orfod a chyrraedd y DU ar eu pen eu hunain. Mae Breadwinners yn elusen a menter gymdeithasol sy’n cynnig rhaglenni i geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n caniatáu iddynt gael profiad ymarferol o redeg busnes. Mae pob person ifanc yn cael ei baru â mentor gwirfoddol ymroddedig sy’n ei gefnogi drwy gydol ei gyfnod gyda’r sefydliad.